Cylch y Mislif mewn Chwaraeon

Sport Wales Logo

Rydyn ni’n gwybod bod cylch y mislif yn effeithio ar athletwyr a chyfranogwyr benywaidd, gan effeithio'n negyddol ar hyfforddiant, perfformiad a chyfranogiad mewn chwaraeon. Ond does dim rhaid i hyn ddigwydd; gyda'r gefnogaeth briodol, sydd wedi’i datblygu drwy ymwybyddiaeth a dealltwriaeth wedi'u hymgorffori mewn hyfforddi ac arfer unigol, mae posib sicrhau’r perfformiad gorau posibl o hyd drwy gydol cylch y mislif.

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig cyrsiau e-ddysgu cylch y mislif mewn chwaraeon. Mae 4 modiwl yn y cwrs yma, i weithio drwyddyn nhw yn eich amser eich hun:

• Cylch y mislif 101

• Bod yn agored a chael sgyrsiau am gylch y mislif

• Hyfforddiant a pherfformiad cylch y mislif

• Iechyd mislifol

Bwriad dysgu: mae'r cwrs yn darparu cyflwyniad i gylch y mislif mewn chwaraeon gan ganolbwyntio ar beth yw cylch y mislif, ymwybyddiaeth o symptomau a’u rheoli, ystyriaethau ar gyfer iechyd mislifol, a hefyd cyngor ar 'ddechrau'r sgwrs' gydag athletwyr a chyfranogwyr benywaidd.

• Modiwl dysgu ar-lein

• Ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg

• Wedi'i ddatblygu gan Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru, yn seiliedig ar brofiadau athletwyr benywaidd elitaidd mewn chwaraeon

• Yn cynnwys fideos, cwisiau, senarios ymarferol a thystysgrif sy’n cael ei dyfarnu ar ddiwedd pob modiwl

• Addas i unrhyw un sy'n ymwneud â chwaraeon neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys hyfforddwyr gwirfoddol, staff cefnogi ac ymarferyddion.

• Ar gael am ddim.

 

 

Price: £0.00
Quantity: